Y Grŵp Trawsbleidiol sy'n Cefnogi Pensiynwyr Visteon

25 Medi 2013, Ystafell Gynadledda 24, 18.30

 

Yn bresennol: Bethan Jenkins AC (Cadeirydd), Mike Hedges AC, David Rees AC, Julie James AC, Keith Davies AC, Suzy Davies AC, Peter Black AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Dennis Varney (Grŵp Gweithredu Pensiynau Visteon), Simon Harding (Grŵp Gweithredu Pensiynau Visteon), John Elvins (Grŵp Gweithredu Pensiynau Visteon), pensiynwyr o Abertawe sy'n aelodau o Grŵp Gweithredu Pensiynwyr Visteon 

 

Cafodd yr aelodau gyflwyniad powerpoint (sydd wedi'i atodi) gan Simon a Dennis ar y sefyllfa ddiweddaraf yn y frwydr i adfer eu pensiynau. Roeddent yn pwysleisio ei bod yn bwysig i wleidyddion geisio rhoi pwysau gwleidyddol ar Ford i ddatrys yr anghydfod. Gofynnodd yr Aelodau beth y gallent ei wneud, a phenderfynwyd gwneud y canlynol:

·         Ysgrifennu llythyr agored at Alan Mulally a Bill Ford, prif weithredwr a chadeirydd Cwmni Moduron Ford, er mwyn gofyn iddynt ddod gerbron Aelodau'r Cynulliad i egluro beth, yn eu barn hwy, yw eu rhwymedigaethau moesol i'w cyn-weithwyr;

·         Ystyried trefnu dadl drawsbleidiol yn y Cynulliad ynghylch anghydfod Visteon;

·         Creu deiseb ar effaith anghydfod Visteon ar economi de-orllewin Cymru.

 

Daeth y cyfarfod i ben a chytunodd yr aelodau i gwrdd yn y flwyddyn newydd, cyn iddi droi'n bum mlynedd ers dechrau'r anghydfod ym mis Mawrth.